Lowri Davies

Am / About

Mae Lowri yn artist arobryn sy'n gweithio o'i stiwdio yn FWCS (Stiwdios Glai Fireworks) yng Nglanyrafon, Caerdydd.

Mae hi’n creu llestri o glai tsieina a phorslen, gan greu casgliadau o gwpanau, jygiau, fasys a phlatiau sydd wedi eu nodweddu gan agoriadau lletraws a’u haddurno gyda darluniau inc a dyfrlliw.

Mae ei gwaith yn deillio o gyfeiriadau at gasgliadau o lestri ar y ddreser Gymreig, casgliadau cofroddion a darluniau bywiog o adar o gasgliadau tacsidermi Fictorianaidd. Mae'r gwrthrychau a'r delweddau hyn yn aml yn cyfeirio at ymdeimlad o le drwy adfywio iconograffig a symbolaeth, sydd â chysylltiad dwfn i'w gwreiddiau.

Lowri is an Award-Winning artist working from her studio at FWCS (Fireworks Clay Studios) in Cardiff, Wales.  

She creates works in bone china and porcelain, creating collections of china teacups, jugs, vases and plates which are then characterised by slanted openings and decorated with ink and watercolour drawings.

Her work stem from references of china displays on Welsh dressers, collections of souvenirs and vibrant illustrations of birds drawn from Victorian taxidermy collections. These objects and images often refer to a sense of place by reviving iconography and symbolism, which have a deep connection to her roots.

IMG_9737.jpg

Astudiodd Lowri Gerameg yn Ysgol Gelf Caerdydd ac yna MA mewn Dylunio Cerameg ym Mhrifysgol Swydd Stafford. Mae ei huchafbwyntiau gyrfa yn cynnwys arddangosfeydd unigol a sioeau grŵp yng Nghanolfan Grefft Rhuthun, arddangos yng Ngŵyl Werin y Smithsonian, Collect yn Llundain a Sofa Chicago. Gellir gweld ei gwaith mewn casgliadau yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd a'r Casgliad Cerameg yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

She studied Ceramics at Cardiff School of Art followed by a Ceramic Design MA at Staffordshire University. Her career highlights include Solo and group exhibitions at Ruthin Craft Centre, demonstrating and exhibiting at the Smithsonian Folkife Festival, exhibiting at Collect in London and Sofa Chicago.  Her work can be seen in collections at the National Museum of Wales in Cardiff and the Ceramics Collection at Aberystwyth Arts Centre.

Lowri Davies_00003_ (1).jpg

Techneg: Mae Lowri yn castio â slip Clai Tsieina a chlai porslen i adeiladu â llaw. Caiff pob darn ei danio 5 gwaith: bisque, y gwydredd yn cael ei danio ddwywaith (gwydredd clir a lliw), addurno gyda phapur transffer (wedi'i argraffu ar sgrîn ac o luniau dyfrlliw ac inc). Mae pob darn wedi ei orffen gyda phlatinwm neu lystar aur.

Technique: Lowri uses Bone China to slip-cast and porcelain to handbuild works. Each piece is fired 5 times: bisque, glaze is applied twice (clear and coloured glazes), decorate with decal application (screen-printed and printed from watercolour and ink drawings). Each piece is finished with platinum or gold lustre.

Lluniau gan / Images by Diana Oliveira & Ray Hobbs