Eisteddfod Wrecsam / Wrexham Eisteddfod
Dwi’n brysur yn paratoi at deithio i fyny i’r Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam ar hyn o bryd ac yn edrych ymlaen at rannu stondin gyda grŵp hyfryd o wneuthurwyr - Marian Haf, Bethan M. Hughes a Vicky Jones. Mi fydd yr Eisteddfod yn agor ar ddydd Sadwrn y 3ydd o Awst ac yn parhau tan ddydd Sadwrn yr 8fed. Fe wnewch chi ein ffeindio ni ar stondin 617-618 ac mi fydd croeso mawr yno. Dilynwch y linc yma i wefan yr Eisteddfod er mwyn darganfod mwy o wybodaeth am yr ŵyl.
///////////////
I'm currently preparing to travel up to the National Eisteddfod in Wrexham and am looking forward to sharing a stand with a lovely group of makers - Marian Haf, Bethan M. Hughes and Vicky Jones. The Eisteddfod will open on Saturday the 3rd of August and continue until Saturday the 8th. You’ll find us on stand 617-618 and you will be very welcome there. Follow this link to the Eisteddfod website to find out more information about the festival.